Mae Cadwaladers wedi bod yn sefydliad ar benrhyn Llŷn ers 9 degawd, ac rydym yn bwriadu aros yma am nifer mwy.  Ers dechrau mewn siop fach gyffredinol ar y bryn ar y ffordd i Gastell Cricieth, nawr rydym yn cael ein haddoli ym Mhrif Ddinas Cymru, Caerdydd. Mae rysáit gyfrinachol hufen iâ fanila Hannah Cadwalader wedi teithio a chyffwrdd â chalonnau (a chegau!) pobl o bob oedran, ac mae’n parhau i fod yn draddodiad teuluol o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn ogystal â darparu ein cymysgeddau unigryw o goffi, te a hufen iâ i chi, rydym hefyd yn bwriadu bod yn rhan o’n cymunedau gan gynnig gostyngiadau cost i grwpiau lleol fel ffordd o ddiolch i chi am barhau i gefnogi eich caffis Cadwaladers lleol.

Mae nawr gennym y gallu i ddarparu’r un hufen iâ o ansawdd gwych yr ydym wedi bod yn darparu yn flaenorol, ond ar raddfa fwy, sy’n ein galluogi i gynnal y galw cynyddol am hufen iâ fanila Hannah Cadwalader. Wrth i’n caffis parhau i ledaenu ar draws Cymru, rydym yn gobeithio y byddech chi’n parhau i ddewis eich Cadwaladers lleol fel lle i ymlacio a dadflino.


Archwiliwch ein Diodydd

Ni fyddwch yn darganfod ein coffi, te neu siocled poeth unigryw unrhyw le arall!  Rydym yn gweini’r diodydd poeth gorau gyda’r un cariad a gofal yr ydym yn rhoi i’n hufen iâ.

Blaswch ein cappuccinos ewynnog wedi’u hysgeintio â siocled, mwynhewch ein siocled poeth hufennog a chyfoethog, neu adfywiwch eich hunain gyda’n hamrywiad arbennig o de dail rhydd.

 

 

Archwiliwch ein Bwyd

Yn Cadwaladers, credwn ei bod hi’n bwysig i’n bwyd blasu cystal â mae’n edrych.

Cynheswch gyda’n sŵp blasus sy’n cael ei weini mewn powlen fara dwym neu wobrwywch eich hunain gyda’n hamrywiad o gacennau melys. Mae gennym amrywiad eang o gynnyrch ar gael er mwyn i bawb mwynhau.