Does dim cig yn byrgyr hufen iâ NEWYDD Cadwaladers!

Thursday 09th January

Mae mis Ionawr yn gyfnod o ail-greu a rhoi cynnig ar bethau newydd; Blwyddyn newydd, fi newydd! Yn Cadwaladers, rydyn ni wedi mynd gam ymhellach! Mae ein dyfeiswyr hufen iâ bach clyfar wedi bod yn gweithio’n galed i gynnig BYRGYR HUFEN IÂ cyntaf Cymru i chi! Do, fe glywsoch chi ni’n iawn!

Dyma’r ddyfais gyntaf o’i math yng Nghymru ac yn sicr nid yw’n mynd i fod yr un olaf i Cadwaladers. Mae’r Byrgyr brioche melys wedi’i lenwi â hufen iâ Fanila Arbennig Cadwaladers, Saws Bisgedi Lotus a chrymbl hufen ffres a bisgedi. Gellir gwneud y byrgyr yn fegan i’r rhai ohonoch sy’n teimlo fel eich bod yn colli allan dros Feganuary. Dyma’r dantaith melys perffaith gyda syrpreis ar gyfer connoisseurs bwyd!

Peidiwch â cholli allan ym mis Ionawr 2020 – chymerwch flas ar rywbeth newydd!

AC, i’r rhai ohonoch chi sy’n mwynhau diodydd blasus ochr yn ochr â’ch syndi, mae Cadwaladers wedi lansio TRI Siocled Poeth hufennog newydd i foddhau eich blasbwyntiau! (Dim ots am y diet!)
Cnau Cyll crensiog, cnau coco trofannol a Charamel Hallt hyfryd! Mae’r diodydd hyn ar gael gyda hufen ac yn fegan (gyda hufen neu heb hufen!)

Treuliwch ychydig o amser gyda ni’r Flwyddyn Newydd hon am y cynhyrchion gorau a’r staff gorau yn siopau coffi a hufen iâ GORAU Cymru.

#LoveCadwaladers


Darganfyddwch eich Siop Cadwaladers leol ar ein map a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol FacebookTrydar ac Instagram am y newyddion diweddaraf.