Codwr Arian Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation
Mae Cadwaladers yn falch o gefnogi British Heart Foundation fel eu Helusen y flwyddyn 2019. Mae British Heart Foundation yn ariannu ymchwil i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Clefyd y galon, Strôc, Diabetes, maen nhw i gyd yn gysylltiedig ac yn lladd 1 ym mhob 4 person yn y DU. Felly, mae’r ymchwil o hyd yn bwysig dros ben.
Yn anffodus, collodd ein Prif Swyddog Gweithredol a’n perchennog, Diane Brierley, ei gŵr, Steve yn 55 oed yn 2015 oherwydd cyflwr y galon heb ddiagnosis. Meddai Diane, “Rydw i mor falch o’r tîm am eu hymdrechion i godi arian drwy’r flwyddyn, bydd y tîm yn rhedeg Hanner Caerdydd dros achos mor wych.”
Mae staff Cadwaladers wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i godi arian gyda Cyclathons, paentio wynebau, gweithgareddau a mwy. Mae detholiad dewr o wirfoddolwyr o’r siopau hefyd wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd. Ar y 6ed o Hydref byddant yn rhedeg trwy Brifddinas Cymru heibio Castell eiconig Caerdydd, o amgylch dyfroedd Bae Caerdydd, trwy galon y bae heibio Canolfan Mileniwm Cymru ac o gwmpas Llyn Parc y Rhath cyn gorffen yn y Ganolfan Ddinesig.
Bydd Carys Williams, Rheolwr Siop Cricieth Cadwaladers yn rhedeg gyda dau aelod o’i thîm er cof em ei thad a fu farw 11 mlynedd yn ôl ar ôl dioddef poenau yn ei frest.
“Cafodd Alan, fy nhad, a oedd yn 56 ar y pryd, ei godi i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl dioddef o boen yn ei frest. Dywedodd y Meddygon wrthym ei fod wedi dioddef trawiad difrifol ar y galon a’i fod wedi cael ei gymryd i’r adran gofal dwys. Dechreuodd wella ac roedd e’n siarad â ni, ond yn anffodus, cafodd drawiad ar y galon enfawr arall a bu farw. Roedd e wastad yn ddyn gweithgar, a oedd yn anaml yn sâl a byth yn ysmygu ac roedd hyn yn gymaint o sioc i’r teulu. Felly, rydw i wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof amdano.”
Effeithiwyd yn ddwfn ar Cadwaladers hefyd pan ddioddefodd aelod hirhoedlog o’r tîm rheoli ataliad ar y galon yn 2018. Mae Jenny Webb, ein Rheolwr Cynorthwyol Rhyddhad, wedi gweithio yn Cadwaladers dros 10 mlynedd. Mae hi’n dioddef o glefyd Addison ymhlith cymhlethdodau eraill, a llynedd yn 2018, yn 30 oed dioddefodd ataliad ar y galon.
“Ar Ionawr 10fed, 2018 fe wnes i ddioddef o ataliad sydyn ar y galon yn fy nghartref. Rwy’n cofio teimlo’n flinedig iawn a dechreuais deimlo’n sâl. O fewn eiliadau aeth fy ngolwg, a dechreuais fynd i banig. Dyna oedd y peth olaf dwi’n ei gofio.
Roeddwn i’n ffodus bod fy rhieni gartref ac roedd fy nhad yn gwneud CPR tan i’r criwiau ambiwlans gyrraedd. Cefais fy rhuthro i’r ysbyty ac anfon at yr adran gofal dwys lle cefais fy rhoi mewn i goma ysgogedig. Des i o gwmpas ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach, doedd gen i ddim syniad beth oedd wedi digwydd na pha mor ddifrifol roedd y sefyllfa. Cymerodd amser hir i mi wella ond rydw i nawr yn teimlo’n iach ac yn hapus
Mae BHF yn edrych ar driniaethau a dulliau atal afiechydon clefyd y galon. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud o ran lledaenu’r wybodaeth am ddiffibrilwyr ac ariannu rhan o’r rhain i’w defnyddio gan y cyhoedd yn bwysig dros ben. Maen nhw’n helpu i achub bywydau, fel fy un fi.”
Rydym yn dymuno pob lwc i’n staff sy’n cymryd rhan yn yr Hanner Marathon ac ni allwn ni aros i gefnogi pob un ohonoch chi, mae hyfforddi a chodi arian yn waith caled ac rydyn ni’n eich cymeradwyo..
Pob Lwc i;
Paul Morton, Aled Jones, Carys Williams, Elan Tudur, Sioned Taylor, Sharon, Sandra Johnson and Dan Coombes