Arwyr Rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd

Friday 25th October

Partnerodd Cadwaladers â The British Heart Foundation ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2019 i roi’r cyfle i weithwyr Cadwaladers gymryd rhan. Mae ein tîm anhygoel a wnaeth rhedeg 13.1 milltir yn y digwyddiad gwych nawr wedi cymryd egwyl haeddiannol. Yn ogystal â herio’r hunain i gwblhau’r hanner marathon, maen nhw hefyd wedi £1000 ar gyfer British Heart Foundation!

Mae ein tîm wedi adlewyrchu ar y digwyddiad ac wedi rhannu eu profiadau gyda ni:


Taith Sandra

Pam wnest di benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Penderfynais fod angen her arnaf i. Roeddwn i am weld os oeddwn i’n gallu gwthio fy hunain digon i’w wneud e..

Sandra Running

Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Rydw i wedi gwneud cwpwl o rasys 5k hwylus ar gyfer elusennau gwahanol. Ond yn sicr, hwn oedd yr her fwyaf rydw i wedi’i wneud.

Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y ras?
Roedd hi’n anodd jyglo plant, gwaith a hyfforddi. Yn enwedig yn ystod y gwyliau haf. Roeddwn i’n trio rhedeg 3-4 diwrnod yr wythnos. Roedd hi’n haws pan oedd y plant yn yr ysgol gan fy mod i’n gallu rhedeg yn y bore yn syth ar ôl mynd â nhw i’r ysgol. Roeddwn i’n ceisio cymryd unrhyw gyfle i redeg. Roedd rhai diwrnodau’n haws nag eraill.
Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Teimladau cymysg. Roeddwn i’n nerfus ond yn canolbwyntio.

Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Es i’n araf iawn drwy gydol y ras. Roeddwn i’n canolbwyntio ar orffen y ras, nid ar yr amser. Fy nod oedd peidio â stopio a chadw rhedeg yr holl ffordd, ac roeddwn i’n gallu llwydo i wneud hyn oherwydd naws da pawb ar y dydd.

Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy am redeg yn ystod y digwyddiad?
Roedd yr holl ras yn brofiad enfawr. Fel arfer, mae angen cerddoriaeth yn fy nghlustiau i mi gadw mynd, ond sylweddolais nad oedd angen hwn arnaf ar y dydd. Gyd oedd angen oedd awyrgylch da’r rhedwyr eraill a bloeddion y gwylwyr. Roeddwn i’n cymryd y naws wych i mewn drwy gydol y ras.

Sandra Johnson holding her Cardiff Half Marathon Medal

Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld y llinell orffen?
Roeddwn i’n bles i weld y llinell orffen ond wedi synnu fy mod i wedi ei orffen. Teimlais fy hun yn gwibio tuag at y llinell orffen ac roedd hi’n teimlo’n anhygoel!

A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn i’n ei wneud e eto, ond byddwn i’n dechrau hyfforddi yn gynharach.


Taith Carys

Pam wnest di benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Roeddwn i am godi arian ar gyfer fy nhad, Alan fu farw ar ôl dioddef o gyfres o Drawiadau ar y Galon. Roedd hwn hefyd yn gyfle i mi gadw’n heini ac yn iachus. Drwy gofrestru am Hanner Marathon Caerdydd, roedd gen i’r cyfle i herio a gwthio fy hunain i wneud rhywbeth gwahanol.

Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Dydw i ddim wedi cymryd rhan yn y ras o’r blaen ond roeddwn i arfer rhedeg a gwneud ymarfer corff yn aml yn y gorffennol.

Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y ras?
Byddwn i wedi hoffi hyfforddi mwy a newid yr hyfforddi gydag ymarferion gwahanol.

Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Wedi fy llethu ond yn gyffrous ac yn nerfus! Roedd dod o hyd i’r tai bach a’r fan i roi bagiau yn heriol!

Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Aeth y 6 milltir gyntaf yn dda, ond yn y 7fed milltir, roedd hi’n anoddach. Roedd milltir 11 a 12 hefyd yn anodd ond erbyn milltir 13 daeth yr adrenalin. Roedd hefyd llwyth o floeddiau gan fyfyrwyr ar Deras Cathays felly roedd hynny’n helpu!

Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy am redeg yn ystod y digwyddiad?
Y filltir olaf wrth i ti sylweddoli pa mor agos yw’r diwedd.

Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld y llinell orffen?
Roedd hi’n emosiynol, dechreuais feddwl am fy nhad ond roeddwn i’n hapus hefyd. Yn y ras, mae rhaid i ti roi dy gorff drwy gymaint sy’n gwneud i ti flino. Ond yn y filltir olaf, rwyt ti’n cyflymu a dechrau rhedeg yn gyflymach tuag at y llinell orffen er gwaethaf sut mae dy gorff yn teimlo.

A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn i ddim yn dweud na 😉


Taith Aled

Pam wnest di benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Roedd hi’n elusen a enwebwyd gan Cadwaladers yn elusen y flwyddyn, felly roedd hi’n anrhydedd i redeg ar gyfer BHF. Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ddiwrnod gwych, llawn cymorth a naws garedig a chadarnhaol.

Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Hwn oedd fy nhrydydd hanner marathon.

Aled with his Cardiff Half Marathon Medal

Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y ras?
Roedd hi’n drafferth i fynd allan i hyfforddi ar rai diwrnodau ond mae gen i gyflogwr hyblyg felly roeddwn i’n gallu hyfforddi a llwyddo i wneud y ras mewn amser rydw i’n falch ohono.


Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Cyffrous a nerfus, ond pan ddechreuodd y ras, daeth yr adrenalin ac roeddwn i’n canolbwyntio ar orffen y ras.

Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Roedd e’n ddiwrnod prydferth yng Nghaerdydd, roeddwn i’n canolbwyntio ar fy amser a mwynhau’r foment.

Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy am redeg yn ystod y digwyddiad?
Gweld tîm Cadwaladers yn barod am y ras, moment falch i fi fy hun.

Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld y llinell orffen?
Emosiynol iawn, mae’n llwyddiant gwych i redeg dros y llinell orffen gyda bloeddiau’r dorf.

A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn – rydw i wedi edrych ar gofrestru ar gyfer blwyddyn nesaf yn barod


Rydyn ni mor falch o amser ac ymdrech y tîm; Carys Williams, Sioned Taylor, Elan Roberts, Sandra Johnson, Aled Jones a Paul Morton. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth sydd ar y gweill yn 2020!


Darganfyddwch eich Siop Cadwaladers leol ar ein map a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol FacebookTrydar ac Instagram am y newyddion diweddaraf.