Partnerodd Cadwaladers â The British Heart Foundation ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2019 i roi’r cyfle i weithwyr Cadwaladers gymryd rhan. Mae ein tîm anhygoel a wnaeth rhedeg 13.1 milltir yn y digwyddiad gwych nawr wedi cymryd egwyl haeddiannol. Yn ogystal â herio’r hunain i gwblhau’r hanner marathon, maen nhw hefyd wedi £1000 ar gyfer British Heart Foundation!
Mae ein tîm wedi adlewyrchu ar y digwyddiad ac wedi rhannu eu profiadau gyda ni:
Taith Sandra
Pam wnest di benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Penderfynais fod angen her arnaf i. Roeddwn i am weld os oeddwn i’n gallu gwthio fy hunain digon i’w wneud e..
Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Rydw i wedi gwneud cwpwl o rasys 5k hwylus ar gyfer elusennau gwahanol. Ond yn sicr, hwn oedd yr her fwyaf rydw i wedi’i wneud.
Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y ras?
Roedd hi’n anodd jyglo plant, gwaith a hyfforddi. Yn enwedig yn ystod y gwyliau haf. Roeddwn i’n trio rhedeg 3-4 diwrnod yr wythnos. Roedd hi’n haws pan oedd y plant yn yr ysgol gan fy mod i’n gallu rhedeg yn y bore yn syth ar ôl mynd â nhw i’r ysgol. Roeddwn i’n ceisio cymryd unrhyw gyfle i redeg. Roedd rhai diwrnodau’n haws nag eraill.
Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Teimladau cymysg. Roeddwn i’n nerfus ond yn canolbwyntio.
Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Es i’n araf iawn drwy gydol y ras. Roeddwn i’n canolbwyntio ar orffen y ras, nid ar yr amser. Fy nod oedd peidio â stopio a chadw rhedeg yr holl ffordd, ac roeddwn i’n gallu llwydo i wneud hyn oherwydd naws da pawb ar y dydd.
Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy am redeg yn ystod y digwyddiad?
Roedd yr holl ras yn brofiad enfawr. Fel arfer, mae angen cerddoriaeth yn fy nghlustiau i mi gadw mynd, ond sylweddolais nad oedd angen hwn arnaf ar y dydd. Gyd oedd angen oedd awyrgylch da’r rhedwyr eraill a bloeddion y gwylwyr. Roeddwn i’n cymryd y naws wych i mewn drwy gydol y ras.
Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld y llinell orffen?
Roeddwn i’n bles i weld y llinell orffen ond wedi synnu fy mod i wedi ei orffen. Teimlais fy hun yn gwibio tuag at y llinell orffen ac roedd hi’n teimlo’n anhygoel!
A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn i’n ei wneud e eto, ond byddwn i’n dechrau hyfforddi yn gynharach.
Taith Carys
Pam wnest di benderfynu cymryd
rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Roeddwn i am godi arian ar gyfer fy nhad, Alan fu farw ar ôl dioddef o gyfres o Drawiadau ar y
Galon. Roedd hwn hefyd yn gyfle i mi gadw’n heini ac yn iachus. Drwy gofrestru
am Hanner Marathon Caerdydd, roedd gen i’r cyfle i herio a gwthio fy hunain i
wneud rhywbeth gwahanol.
Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Dydw i ddim wedi cymryd rhan yn y ras o’r blaen ond roeddwn i arfer rhedeg a gwneud ymarfer corff yn aml yn y gorffennol.
Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y ras?
Byddwn i wedi hoffi hyfforddi mwy a newid yr hyfforddi gydag ymarferion gwahanol.
Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Wedi fy llethu ond yn gyffrous ac yn nerfus! Roedd dod o hyd i’r tai bach a’r fan i roi bagiau yn heriol!
Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Aeth y 6 milltir gyntaf yn dda, ond yn y 7fed milltir, roedd hi’n anoddach. Roedd milltir 11 a 12 hefyd yn anodd ond erbyn milltir 13 daeth yr adrenalin. Roedd hefyd llwyth o floeddiau gan fyfyrwyr ar Deras Cathays felly roedd hynny’n helpu!
Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy
am redeg yn ystod y digwyddiad?
Y filltir olaf wrth i ti sylweddoli pa mor agos yw’r diwedd.
Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld
y llinell orffen?
Roedd hi’n emosiynol, dechreuais feddwl am fy nhad ond roeddwn i’n hapus
hefyd. Yn y ras, mae rhaid i ti roi dy gorff drwy gymaint sy’n gwneud i ti
flino. Ond yn y filltir olaf, rwyt ti’n cyflymu a dechrau rhedeg yn gyflymach
tuag at y llinell orffen er gwaethaf sut mae dy gorff yn teimlo.
A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn i ddim yn dweud na 😉
Taith Aled
Pam wnest di benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer British Heart Foundation?
Roedd hi’n elusen a enwebwyd gan Cadwaladers yn elusen y flwyddyn, felly roedd hi’n anrhydedd i redeg ar gyfer BHF. Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ddiwrnod gwych, llawn cymorth a naws garedig a chadarnhaol.
Wyt ti wedi rhedeg o’r blaen neu gymryd rhan mewn ras cyn hwn?
Hwn oedd fy nhrydydd hanner marathon.
Sut aeth yr ymarfer ar gyfer y
ras?
Roedd hi’n drafferth i fynd allan i hyfforddi ar rai diwrnodau ond mae gen i
gyflogwr hyblyg felly roeddwn i’n gallu hyfforddi a llwyddo i wneud y ras mewn
amser rydw i’n falch ohono.
Sut oeddet ti’n teimlo yn cyrraedd y digwyddiad?
Cyffrous a nerfus, ond pan ddechreuodd y ras, daeth yr adrenalin ac roeddwn
i’n canolbwyntio ar orffen y ras.
Beth ddigwyddodd yn ystod y ras?
Roedd e’n ddiwrnod prydferth yng Nghaerdydd, roeddwn i’n canolbwyntio ar fy
amser a mwynhau’r foment.
Beth oedd y rhan mwyaf cofiadwy am redeg yn ystod y digwyddiad?
Gweld tîm Cadwaladers yn barod am y ras, moment falch i fi fy hun.
Sut oeddet ti’n teimlo wrth weld y llinell orffen?
Emosiynol iawn, mae’n llwyddiant gwych i redeg dros y llinell orffen gyda
bloeddiau’r dorf.
A fyddet ti’n ei wneud eto?
Byddwn – rydw i wedi edrych ar gofrestru ar gyfer blwyddyn nesaf yn barod
Rydyn ni mor falch o amser ac ymdrech y tîm; Carys Williams, Sioned Taylor, Elan Roberts, Sandra Johnson, Aled Jones a Paul Morton. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth sydd ar y gweill yn 2020!
Darganfyddwch eich Siop Cadwaladers leol ar ein map a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook, Trydar ac Instagram am y newyddion diweddaraf.